Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiwygio Ariannol 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

12.15, 10 Chwefror 2015

Ystafell Gynadledda 24, Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

Pwnc: 'Cymru Wledig: Y wlad yr anghofiodd y banciau amdani '

Siaradwr gwadd: Yr Athro Nicholas Ryder, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste

Yn bresennol

Akmal Hanuk (AH) o'r Ganolfan Bancio a Chyllid Islamaidd

Anthony Slaughter (AS) Ymgeisydd y Blaid Werdd dros Dde Caerdydd a Phenarth

Bill Hudson (BH)

Chris Stoodley (CS) Undebau Credyd

Daf Wyn Williams (DW) Annibynnol

Dean Coombes (DC) Awesome Cardiff

Gennie Rose (GR) 010 Vision Media Production

Gruffydd Meredith (GM) Arian Cymru

John Waters (JW) Cronfa Fancio Gymunedol Robert Owen

Jonathan James (JJ) Annibynnol

Josh Miles (JM) Ffederasiwn Busnesau Bach

Laura Nunez (LN) Annibynnol

Martyn Ford (MF) Annibynnol

Meirion Morgan (MM) Gorwel

Rhian Marie Thomas (RMT) Barclaycard

Richard Kite (RK) Positive Money

Tianshu Zhao (TZ) Ysgol Fusnes Caerdydd

Justin Lilley (JL)

Darren Millar AC (DM)

Russell George AC (RG)

Prif sgwrs

NR: Diolch ichi am fy ngwahodd. Ers yr argyfwng ariannol a hyd yn oed cyn hynny, rwyf wedi cymryd diddordeb arbennig mewn mynediad at gredyd. Rydym wedi profi cyfnod o fenthyca anghyfrifol neu fenthyca niweidiol i gymdeithas yn dilyn cyfnod o ddadreoleiddio a ffrwydrad o ran mynediad at gredyd. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y sefyllfa bellach yn arafu e.e. mae JP Morgan Chase wedi dangos gostyngiad mewn rhaglenni gwreiddiol morgais i $16.8 biliwn (66% o'r hyn yr oedd flwyddyn yn ôl).

O edrych ar esblygiad credyd defnyddwyr, mae'n werth nodi'r newidiadau mewn deddfwriaeth. Cafwyd credyd cyfleus ond roedd hwn yn aml yn ddrud a gallai arwain at orddyled. Mae'r pwyslais bellach yn symud tuag at 'gredyd fforddiadwy'. Gan ei fod yn syml a thryloyw, mae credyd fforddiadwy yn wahanol iawn i'r hyn sydd gan fenthycwyr diwrnod cyflog i'w gynnig, gyda (yn flaenorol) llog heb ei gapio a thelerau cymhleth gydag ychydig iawn o amddiffyniad i'r defnyddiwr.

Roedd 'ochr dywyll' i gredyd cyfleus, lle'r oedd rhai rhannau o gymdeithas yn cael eu hallgau'n ariannol, gan fethu â chael mynediad at rai gwasanaethau am wahanol resymau e.e. technoleg, gwybodaeth, statws credyd, cynilion, parodrwydd i ddyfalu, ac ati.

Mae gan y DU ffigurau dyled preifat /personol / cartref uchel iawn gyda'r cyfanswm yn cynyddu £152 miliwn bob 5 munud ar gyfartaledd. Mae dyled cardiau credyd ar hyn o bryd oddeutu £61 miliwn yn y DU.

I'r rheini sy'n ddigon anffodus i fod yn methu ag ad-dalu, maent yn cael eu dal mewn dyled sydd bron yn amhosibl dianc rhagddi.

A ddylem feio'r banciau? Mae banciau'n gwneud yr hyn y maent yn fod i'w wneud. Nid ydynt o dan unrhyw rwymedigaeth statudol i gynnal rhwydwaith o ganghennau, i addysgu eu cwsmeriaid nac i gynnig cyngor ar reoli dyledion nac i fod er budd cymdeithas yn ei chyfanrwydd - diben banc preifat yw darparu gwasanaethau a gwneud elw i'w gyfranddalwyr.

Yn ystod y cyfnod yn arwain at yr argyfwng ariannol, roedd banciau'n ymddwyn mewn ffyrdd anghyfrifol a rheibus, gan gynnig benthyciadau heb brawf o incwm neu, mewn rhai achosion, roeddent yn benthyg yn fwriadol i fenthyciwr na fyddai'n gallu ad-dalu. I eraill, efallai mai rhywbeth fel cardiau siop a arweiniodd at gamreoli ariannol a dyled.

Yn 2012 nododd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) fod targedu bwriadol ffioedd bregus, ymosodol / anghymesur yn anghyfreithlon ac ni anogwyd y math hwn o ymddygiad. O ganlyniad i hynny, mae nifer o fanciau wedi ail-frandio e.e. Lloyds TSB, Barclays, ac ati.

Fodd bynnag, ymddengys yn anochel y bydd llawer o fanciau'r stryd fawr yn cau wrth i fwy a mwy o bobl gael mynediad at wasanaethau ar ddyfeisiau symudol neu ar-lein.

Mae Undebau Credyd yn cynnig dewis arall teilwng ond ni chawsant eu gwerthfawrogi ers 1998. Mae Undebau Credyd i bawb  sy'n aelod o'r Bond Cyffredin. Mae'n gamsyniad cyffredin mai banciau i bobl dlawd yw Undebau Credyd. Nid yw hyn yn wir ac mae'n rhaid gwneud ymdrech i unioni'r camsyniad hwn ac i greu delwedd fwy cadarnhaol a gwerth chweil.

Yn yr Unol Daleithiau, mae Undebau Credyd yn chwarae rhan ganolog gan gynnig chwarter morgeisi. Yn dilyn yr argyfyngau economaidd a'r dirwasgiad, mae Undebau Credyd wedi bod yn llawer mwy gwydn na banciau ac maent wedi llwyddo i gynnal twf yn ystod y cyfnod hwn.

Mae gan yr Alban rwydwaith sefydledig o Undebau Credyd ac mae Cymru yn tyfu yn y maes hwn ond mae angen gwneud mwy o hyd.

Er mwyn atal benthyca anghyfrifol ymhellach mae'r Swyddfa Masnachu Teg wedi cyflwyno dirwyon newydd. Tra'r oeddent yn gyfyngedig i  £50,000, maent bellach yn ddiderfyn yn y DU. Mae hyn yn dilyn y patrwm a osodwyd yn yr Unol Daleithiau lle mae dirwyon enfawr o hyd at $17 biliwn wedi cael eu cyflwyno.

I gloi, er nad yw cwmnïau fel Wonga wedi wynebu dirwyon gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, maent wedi cael eu gorfodi i gyfyngu cyfraddau llog a rhai o'u ffioedd. Fodd bynnag, caniateir i fenthycwyr diwrnod cyflog weithredu o hyd. Yr hyn sy'n peri pryder yw'r ffordd y maent yn targedu cymunedau tlotach ac yn manteisio ar bobl sydd ar incwm isel. Mae'r bobl hyn yn cael eu heithrio o gyllid confensiynol ac yn cael eu gorfodi i chwilio am ddewisiadau eraill sy'n ffinio ar gribddeiliaeth.

Mae posibilrwydd i Gymru, fel yn yr Unol Daleithiau, gael rhwydwaith o fanciau cymunedol sy'n cyflenwi canghennau a gwasanaethau bancio. Fel arall, gallai rhoi mwy o bwyslais ar lythrennedd ariannol arwain at fwy o gynhwysiant a mynediad at wasanaethau mwy amrywiol.

(Gellir darparu sleidiau o'r cyflwyniad a'r dogfennau ategol os gwneir cais)

Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

DM: Diolch i'r Athro Ryder. Sefydlwyd y Grŵp Trawsbleidiol i nodi problemau ac i adeiladu consensws ar ddulliau o wneud iawn am yr anghyfiawnderau sy'n ein hwynebu o ganlyniad i'r system ariannol bresennol ac i fynd i'r afael â hwy.  Gan mai heddiw yw diwrnod ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hoffwn gael enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y grŵp. 

RG: Rwyf yn enwebu Darren Millar.

DM: Yn absenoldeb enwebiadau eraill rwyf yn barod i dderbyn yr enwebiad. A yw pawb yn fodlon?

Pawb: Ydyn.

DM: Mae angen inni hefyd benodi Ysgrifennydd i'r Grŵp Trawsbleidiol. Rwyf wedi cael enwebiad ar gyfer Justin Lilley. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Gallaf weld nad oes. A ydych i gyd yn cytuno i benodi Justin?

Pawb: Ydyn.

DM: Diolch. Bydd y llawr yn awr ar agor ar gyfer cwestiynau.

Cwestiynau a thrafodaeth

DW: Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y DU ac UDA o ran Undebau Credyd?

NR: Roedd yr Undeb Credyd cyntaf yn yr Unol Daleithiau ym 1809 ac mae atgasedd cyffredinol o fanciau bob amser wedi bodoli.  Ym 1998 pan oedd sôn am newid dehongliadau o'r Bond Cyffredin, gorymdeithiodd dros filiwn o bobl i'r Tŷ Gwyn i fynnu bod y penderfyniad yn cael ei ddidymu. Yn yr UDA mae llu o wasanaethau y gall Undebau Credyd eu cynnig ar gyfer grwpiau amrywiol o gwsmeriaid. Mae Undebau Credyd yn y DU wedi esblygu dros gyfnod llai ac mae ganddynt system llai cadarn, ond cymaint o botensial ar gyfer dynamiaeth.

 JM: A yw rôl Undebau Credyd ar draws Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon [am gydlyniant a chytgord cymdeithasol] yn enghraifft o gymharu â Chymru? A yw'r materion ehangach yn cael eu hachosi gan y '5 mawr'?

NR: Nid yw Gogledd Iwerddon yn gymwys ar gyfer mesurau gwarantu penodol a ganiateir gan y fframwaith banc hyblyg felly gallai hyn fod yn rheswm pam mae Undebau Credyd yn ddewis mwy poblogaidd.  Dylai edrych ar gyfraith cystadleuaeth yn y sector bancio fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU [Yr Awdurdod Marchnadoedd Cystadleuol a sefydlwyd 2014]

RG: Mae tri banc wedi cau yn Sir Drefaldwyn yn ddiweddar. Beth a gollwyd? Beth yw'r bylchau yn y farchnad? Beth sy'n atal banciau rhag gweithio gyda'i gilydd?

NR: Mae angen hyder ar bobl i drafod cyllid. Mae angen iddynt ymddiried yn y person neu'r sefydliad. Gyda thechnoleg fwy symudol mae lle i ddefnyddio mannau fel llyfrgelloedd, swyddfeydd post, ac ati. Un o'r mentrau a oedd yn gweithio yn yr Unol Daleithiau oedd y Ddeddf Ailfuddsoddi Cymunedol a oedd yn sicrhau bod banciau'n cynnal rhwydweithiau o ganghennau lle'r oedd y DU yn tueddu i ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â chydymffurfio a rheoli risg.

DM: Byddai cau 46% o fanciau yng Nghymru yn ddinistriol. Bydd symud tuag at gydbwysedd rhwng gwasanaeth gofynnol a mynediad cyffredinol yn bwysig.

AH: Nid yw'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn caniatáu i fusnesau bach a chanolig gael mynediad at y cyfalaf sydd ei angen arnynt drwy Undebau Credyd. Mae cydgyfeirio rhwng Undebau Credyd a Chyllid Islamaidd ar egwyddorion moesegol. A ydych yn credu eu bod yn bartneriaid cydfuddiannol da i godi graddfeydd benthyca ar gyfer menter efallai? Efallai bod y model SCDC yn ddefnyddiol?

 JW: Mae'r ateb Cyllid Cymunedol yn seiliedig ar fodel partneriaeth a'i nod yw darparu synergedd ar gyfer Undebau Credyd. Mae Cliff Rosenthal, Pat Conarty, Mick Brown a llawer mwy yn weithgar yn y maes hwn. Mae problemau'n cynnwys cystadleuaeth am gyllid grant. Nid oes angen inni ail-ddyfeisio'r olwyn, dim ond gwerthfawrogi'r hyn sydd gennym o hyd, llenwi'r darnau coll a chael nodau i siarad. Mae angen i Undebau Credyd gydweithio gyda chyd-weithredwyr eraill.

NR: Mae deddfwriaeth ar gyfer Undebau Credyd yng Ngweriniaeth Iwerddon o ddefnydd i fusnesau bach a chanolig sy'n gweithredu fel cwmnïau cydweithredol gan ddarparu benthyciadau i aelodau a busnesau. Yn yr UDA, sefydlwyd Undebau Credyd Datblygiad Cymunedol i gefnogi taleithiau a oedd yn suddo ac i greu cyfleusterau benthyca ar gyfer diwygio cymdeithasol fel y gallent gynnig benthyciadau risg uwch.

MF: Mae'r DU yn ymddangos yn gosbol yn y gyfraith o ran diffygdalu, adfeddiannu a methdaliad o gymharu â mannau eraill. Yn y DU, mae amser oedi o chwe blynedd o'i gymharu â dim ond dwy flynedd yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd. A all benthyca rheibus arwain at niwed tymor hir neu niwed parhaol i unigolion a chymunedau? A yw dirwyon yn arwydd symbolaidd?

NR: Mae'n werth edrych ar fynd yn groes i Siarter Hawliau Dynol Ewrop. Mae angen rhywfaint o atebolrwydd. Mae banciau'n cael eu gyrru gan elw felly bydd dirwyon yn cael effaith ar eu helw oni bai eu bod yn gallu trosglwyddo'r gost i gwsmeriaid.

CS: Mae benthycwyr eisiau twf cyflym, a yw benthycwyr cymdeithasol yn edrych ar fanteision cynhyrchiant tymor hir?

NR: Mae'n ymwneud ag addysgu pobl i gael agwedd fwy aeddfed a synhwyrol tuag at gyllid, er mwyn annog cynilion, effeithlonrwydd a menter. Mae'n edrych y tu hwnt i elw tymor byr tuag at y manteision net tymor hir i Gymru. Oni bai ein bod yn addysgu pobl yn ddiwylliannol, byddant yn defnyddio cardiau credyd.

CS: A yw newidiadau mewn cyfraith methdaliad wedi helpu gan nad oes yn rhaid i bobl aros cyhyd i ddechrau ailadeiladu eu statws credyd bellach?

NR: Nid methdaliad yw'r ateb - nid ydym am annog y dull hwnnw. Yn lle hynny, mae angen ethos o ennill ac chynilo. Rhagwelodd Mckensie (1974) y byddai Dyfarniadau Llys Sirol (CCJs) yn niweidiol i gymdeithas. Yr ateb yw ail-addysgu'r cyhoedd ac ail-gyfansoddi cyllid - y Glec Fawr i bobl a chymunedau.

 JJ: A yw ffigurau dyledion aelwydydd i gyfrif am ddyled morgais?

NR: Ydy, gellir dod o hyd i wybodaeth am ffigurau yn credit action. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn edrych ar storm berffaith arall.

 JW: Mae'n ofynnol i Undebau Credyd addysgu. Mae'r problemau'n ymwneud â gwasanaethu anghenion y rhai sy'n cael eu hallgáu'n ariannol. Mae benthyca i fusnesau bach a chanolig yn allweddol i gynaliadwyedd. Oni allem gapio elw ac nid llog?

DW: Sut rydym yn addysgu pobl ifanc pan fyddant yn cael eu gwthio i ddyled am raddau prifysgol?

NR: Dylai prifysgolion fod yn farchnad ddelfrydol ar gyfer Undebau Credyd fel benthycwyr a chynilwyr.

RP: Nid dim ond pobl a allai fod yn fwy llythrennog yn ariannol; byddai busnesau hefyd yn cael budd aruthrol, ond maent yn aml yn cael eu heithrio'n ariannol oherwydd y cymerir yn ganiataol bod y wybodaeth angenrheidiol ganddynt a bod ganddynt fynediad at wasanaethau fel y mae arnynt eu hangen. Nid yw'r rhan fwyaf yn sylweddoli eu bod yn gallu cronni a dylanwadu ar bensiynau a benthyg i fusnesau eraill.

DM: Mae'n ymddangos ein bod wedi taro ar ddau fater allweddol

1)      Cymorth i Undebau Credyd estyn y tu hwnt i farchnadoedd sefydlog.

2)      Bydd llythrennedd ariannol yn cael ei gynnwys ym Mil Cenedlaethau'r Dyfodol gyda Bethan Jenkins AC yn cael ei gwahodd i gyfrannu gan ei bod erbyn hyn wedi tynnu ei Bil ei hun yn ôl ar gyfer Addysg a Chynhwysiant Ariannol.